top of page

Gwerthwr Llyfrau
Tom, 34
Absolve You of Commitmentby Leigh Davies
00:00 / 03:12
Wy’n caru’r glaw ers erioed, hyd yn oed pan o’n i’n fach – yn eistedd yn conservatory Mam-gu yn gwrando arno fe’n dod lawr. Yn dilyn y llinelle’n llifo fel traffyrdd wrth i’r diferion olchi mewn i’w gilydd ar y gwydr. Nawr… mae’n siŵr bod ti’n disgwyl i fi weud bod fi’n caru’r glaw achos bod e’n helpu’r tir i dyfu ac yn golchi beie ac yn y blaen, ond wy’n caru’r glaw achos mor rwydd ma fe’n gallu dy ryddhau di o beth o’t ti fod i neud.
“O galla i ddim torri’r lawnt heddi, mae’n bwrw.”
“Beth am beidio mynd mas heddi, ’drych ar y tywydd.”
Mae’r glaw yn neud i fywyd sefyll yn ei unfan. Ma bywyd yn cael ei roi ar pause yn y glaw a wy wrth ’y modd ’da hwnna. A bod yn onest, wy’n gweud hyn tra ma ’na storom fawr yn chwythu, a’n barod wy’n meddwl am yr holl bethe fydd dim raid fi neud nawr.
bottom of page